Rhowch eich barn i ni
Mae'n hanfodol ein bod yn gwybod barn pobl am yr eiriolaeth a ddarperir gan ASC. Trwy wrando ac ymateb i adborth, gallwn wella. Mae sawl ffordd y gallwch ddarparu adborth i ni.
Cwblhewch ein Ffurflen Werthuso syml ar-lein a chliciwch ar Cyflwyno ar y diwedd - diolch
Gwneud cwyn
Rydym hefyd yn parchu'ch hawl i wneud cwyn os ydych yn anhapus gydag unrhyw agwedd o'n gwasanaeth. Gallwch ddod o hyd i'n polisïau Cwynion a Chanmoliaeth isod.
Mae ASC yn gweithio mewn partneriaeth gyda Care Opinion, porth ble gall unrhyw un rannu straeon am y gwasanaeth maen nhw wedi'i derbyn gennym.
Gall rhannu'ch stori am Cefnogaeth Eiriolaeth Cymru ein helpu i wneud ein gwasanaethau'n well. Gallwch rannu'ch stori os yw'n dda neu'n wael - mae'r ddau fath yn bwysig.
Gallwch ddweud eich stori gan ddefnyddio un o'r dulliau canlynol:
Gwe:
Cliciwch yma i weld straeon pobl eraill ynghyd â dolen i wefan Care Opinion.
Cliciwch yma a gallwch anfon eich stori'n uniongyrchol i Care Opinion.
Ffôn:
0800 122 31 35 (rhadffôn) yn ystod oriau gwaith i ddweud eich stori i rywun yn Care Opinion .
Post:
Gofynnwch i ni am daflen, mae lle ar y daflen i chi ysgrifennu neu dynnu llun o'ch stori. Yna gallwch ei selio a'i rhoi yn y post i Care Opinion (does dim angen stamp).