Mae Cefnogaeth Eiriolaeth Cymru (ASC) yn falch o fod yn ddeiliad y Marc Ansawdd Perfformiad Eiriolaeth (QPM Eiriolaeth) ers 2016.
Y QPM Eiriolaeth yw safon ansawdd meincnod y DU sy'n adnabod ansawdd wrth gyflwyno gwasanaethau eiriolaeth (yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon). Mae'r broses pedwar cam yn drylwyr ac roedd rhaid i ASC ddarparu tystiolaeth i ddangos sut mae'n bodloni'r gwahanol safonau gofynnol.
Mae ennill y QPM Eiriolaeth:
Ail-aseswyd ASC yn ddiweddar ac mae'n falch o gyhoeddi ei fod wedi derbyn y QPM Eiriolaeth ymhellach tan 2022.
Mae nifer o esiamplau o gwsmeriaid bodlon ar Care Opinion. Mae'r adolygiadau cadarnhaol hyn ynghyd â llwyddo ennill y QPM Eiriolaeth yn rhoi hyder a sicrwydd i gleientiaid a gweithwyr proffesiynol bod ASC, fel darparwr Eiriolaeth Annibynnol, yn darparu gwasanaeth eiriolaeth o ansawdd uchel.