Mae eiriolaeth yn rhoi llais i bobl allu lleisio'u barn. Proses ydyw o gefnogi a galluogi pobl:
Mae Cefnogaeth Eiriolaeth Cymru yn cyflwyno eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol mewn ardaloedd penodol yng Nghymru. Os ydych chi o fewn lleoliadau gofal eilaidd neu iechyd meddwl cymunedol yn Ne Cymru, gallech fod yn gymwys i gael mynediad at ein gwasanaethau. Am ragor o wybodaeth, ymwelwch â'r dudalen 'Cefnogaeth a Gynigir Gennym'.
Mae bod yn annibynnol yn golygu y byddwn yn cynrychioli'r cleient yn unig. Nid ydym yn rhan o'r GIG neu unrhyw Fwrdd Iechyd ac rydym yn gweithredu'n annibynnol u unrhyw ward ysbyty neu leoliad cymunedol ble gallech fod yn derbyn triniaeth. Rydym yn cadw pob darn o wybodaeth yn gyfrinachol ac rydym yn datgelu gwybodaeth am gleientiaid dim os oes risg ganfyddedig ddilys o niwed i'w hunain neu eraill.
Mae Eiriolwr yn weithiwr proffesiynol cymwys sy'n darparu cefnogaeth eiriolaeth pan mae ei angen arnoch. Gall eiriolwr eich helpu i gael mynediad at wybodaeth sydd ei hangen arnoch neu fynd i gyfarfodydd gyda chi, mewn rôl gefnogol. Efallai byddwch am i'ch eiriolwr ysgrifennu llythyron ar eich rhan, neu siarad drosoch chi mewn sefyllfaoedd ble nad ydych yn teimlo eich bod yn gallu siarad drosoch chi'ch hun.
Mae sefyllfa pob cleient yn wahanol a bydd Eiriolwr yn gweithio gyda chi fel sy'n ofynnol.
Unwaith i chi gael eich cyfeirio, gallwch ddisgwyl derbyn ymateb oddi wrth yr eiriolwr a bennir i chi o fewn 5 niwrnod gwaith. Mewn rhai amgylchiadau, mae'n rhaid i ni weithredu rhestr aros ond byddwch yn cael gwybod os oes un yn bodoli yn eich ardal chi wedi i ni dderbyn eich atgyfeiriad.
Mae hyn yn dibynnu'n llwyr ar eich anghenion. Unwaith i ni bennu eiriolwr i chi a'ch bod wedi cael eich cyfarfod cychwynnol, byddwch yn cytuno pryd sydd orau i chi gwrdd nesaf. Bydd hyn yn dibynnu ar gyfnod arfaethedig eich arhosiad (os ydych yn yr ysbyty) neu'n pennu cynllun ar gyfer eich triniaeth. Os oes gennych gyfarfod neu rownd ward ar y gweill yr hoffech gael cefnogaeth ar ei gyfer, bydd y gofyniad hwnnw hefyd yn cael ei gymryd i ystyriaeth gydag amser yn cael ei drefnu ar ei gyfer.
Ar unrhyw adeg benodol, bydd gan ein Heiriolwyr lwyth gwaith swmpus. Mae'n anochel y bydd y llwyth gwaith yn effeithio ar yr amser maen nhw'n gallu treulio gyda chi mewn unrhyw sesiwn penodol. Ond byddant bob tro'n sicrhau eu bod wedi mynd i'r afael ag unrhyw gwestiynau neu bryderon sydd gennych (neu'n gwneud cynllun er mwyn eu hateb).
Byddwn, dyna un o swyddogaethau pwysicaf Eiriolwr os yw cleient yn gofyn iddynt wneud hynny. Byddwn yn trafod gyda chi cyn y cyfarfod am y pethau yr hoffech chi i ni eirioli ar eich rhan.
Gallwch, os ydych chi am gael mynediad at ein gwasanaethau IMHA neu wasanaethau Cymunedol, rydych dal yn gallu cael mynediad at y gwasanaethau hyn os oes gennych deulu neu ffrindiau ar gael.
Mae ein gwasanaeth IMCA ar gael i gefnogi person sydd â diffyg galluedd ac â neb i siarad ar ei ran neu ar ei rhan, megis teulu neu ffrindiau (sy'n 'ddigyfaill'), neu os oes teulu neu ffrindiau'n bresennol ond eu bod yn cael eu hystyried yn "anaddas". Os ydych yn ansicr a ydych yn gymwys ai beidio, ffoniwch ein tîm ar 029 2054 0444.
Does dim cost i chi fel y cleient. Rydym yn cyflwyno ein gwasanaethau eiriolaeth trwy gytundebau statudol sy'n cael eu hariannu trwy'r Byrddau Iechyd Prifysgol yng Nghymru. Ond rydym yn annibynnol ohonynt ac rydym yn gweithredu ar gyfarwyddiadau a dymuniadau ein cleientiaid yn unig.
Dan Ddeddf Galluedd Meddyliol (2005), mae gan y sawl â diffyg galluedd a'r sawl "digyfaill" hawl statudol i eiriolaeth trwy'r Gwasanaeth Eiriolaeth Galluedd Meddyliol Annibynnol (IMCA).
Mae Deddf Iechyd Meddwl 1983 (diwygiad 2007) yn ei wneud yn ofynnol bod pob Bwrdd Iechyd yng Nghymru a Lloegr yn darparu gwasanaeth IMHA ar gyfer pob claf cymwys sydd ei eisiau. Yng Nghymru mae Mesur Iechyd Meddwl Cymru (2010) wedi ymestyn y gofyniad hwn ynghyd â'r sawl sy'n gymwys ar gyfer y gwasanaeth.
Mae IMHA yn rôl statudol a ddiffinnir gan y darnau hyn o ddeddfwriaeth. Nid oes rhaid i chi gael mynediad at IMHA os ydych yn dewis peidio, ond mae'r gwasanaeth a'r argaeledd yno i chi.
Mae nifer o ffyrdd o gysylltu â ni. Gallwch ffonio ni ar 029 2054 0444 neu anfon e-bost at info@ascymru.org.uk. Ein rhif ffacs yw 029 20735620
Gallech anfon llythyr atom:
Cefnogaeth Eiriolaeth Cymru
Charterhouse 1, Parc Busnes Links
Ffordd Fortran
Llaneirwg
Caerdydd
CF3 0LT
Os ydych yn ansicr a yw'r gwasanaeth yn iawn i chi neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni, byddwn yn hapus i glywed gennych.
Gobeithiwn fod y Cwestiynau Cyffredin hyn wedi bod yn ddefnyddiol. Mae'n debygol y bydd gennych gwestiynau eraill sydd heb gael eu hateb yma felly mae croeso i chi gysylltu â ni ar 029 2054 0444 ac fe wnawn ein gorau i'w hateb.