Yn eich rôl broffesiynol, rhaid i chi fod yn ymwybodol o hawl unigolyn i eiriolaeth ar gyfer y cleifion hynny sy'n gymwys o fewn eich gofal.
Mae'r adran isod yn rhoi manylion o'r hawliau hynny dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 a Deddf Galluedd Meddyliol 2005.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'n tîm ar ddyletswydd ar 029 2054 0444.
Mae Eiriolaeth Galluedd Meddyliol Annibynnol yn amddiffyniad ar gyfer pobl â diffyg galluedd i wneud rhai penderfyniadau pwysig. Dan Ddeddf Galluedd Meddyliol (2005), mae hawl statudol i eiriolaeth i'w sawl â diffyg galluedd ac yn "ddigyfaill" trwy'r Gwasanaeth Eiriolaeth Galluedd Meddyliol Annibynnol (IMCA).
Mae Eiriolaeth Galluedd Meddyliol Annibynnol yn rhoi'r hawl i bobl sydd ag amhariad, anaf neu anabledd sy'n golygu eu bod yn methu â gwneud penderfyniadau penodol eu hunain i dderbyn cefnogaeth a chynrychiolaeth annibynnol.
Os ydych chi'n gweithio o fewn cyngor lleol, neu os mai chi yw'r un sy'n gwneud penderfyniadau GIG, RHAID i chi gyfeirio person os nad oes ganddynt unrhyw deulu neu ffrindiau 'addas' y gellir ymgynghori â hwy a'u bod wedi cael eu hasesu fel bod â diffyg galluedd i wneud penderfyniad am y canlynol:
Ar ben hynny, EFALLAI bydd angen i chi gyfeirio os yw'r person / claf â diffyg galluedd i wneud penderfyniad am naill ai:
Bydd y Gwasanaeth Eiriolaeth Galluedd Meddyliol Annibynnol yn gwirio a ydych chi, fel y sawl sy'n gwneud y penderfyniadau:
Mae IMCA yn gallu herio penderfyniadau a wnaed gan y sawl sy'n gwneud penderfyniadau, gan gynnwys yr asesiad galluedd ei hun. Mae ganddynt yr hawl i gwrdd â'r cleient yn breifat a gallant ofyn gweld yr holl gofnodion iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a chartrefi gofal perthnasol. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch ein tîm ar ddyletswydd ar 029 2054 0444.
Mae IMCA yn gallu herio penderfyniadau a wnaed gan y sawl sy'n gwneud penderfyniadau, gan gynnwys yr asesiad galluedd ei hun. Mae ganddynt yr hawl i gwrdd â'r cleient yn breifat a gallant ofyn gweld yr holl gofnodion iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a chartrefi gofal perthnasol. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch ein tîm ar ddyletswydd ar 029 2054 0444.
Mae Deddf Iechyd Meddwl 1983 (diwygiad 2007) yn ei wneud yn ofynnol bod pob Bwrdd Iechyd yng Nghymru a Lloegr yn darparu gwasanaeth IMHA ar gyfer pob claf cymwys sydd ei eisiau.
Yng Nghymru mae Mesur Iechyd Meddwl Cymru (2010) wedi ymestyn y gofyniad hwn ynghyd â'r sawl sy'n gymwys ar gyfer y gwasanaeth.
Mae IMHA yn rôl statudol a ddiffinnir gan y darnau hyn o ddeddfwriaeth. Nid oes gan gleifion fynediad at IMHA os nad ydynt yn dewis gwneud. Mae IMHA yn gallu gweithredu mewn perthynas â meddyginiaeth, triniaeth a gofal ar gyfer salwch meddwl y claf. Mae gan IMHA yr hawl:
RHAID i'r person cyfrifol, fel y diffinnir yn ôl y gyfraith, sicrhau eu bod yn rhoi gwybod i bob Claf Cymhwysol o'u cymhwysedd am gefnogaeth IMHA. Yn ymarferol, bydd y ddyletswydd gyfreithiol hon yn cael ei weithredu gan weithwyr proffesiynol priodol e.e. staff Nyrsio sy'n gorfod:
Os nad yw claf eisiau IMHA, mae dyletswydd i wirio eto.
Gall IMHA ddarparu eiriolaeth i bobl â diffyg galluedd i'w cyfarwyddo ac sy'n methu cyfathrebu eu dymuniadau, trwy ymagwedd heb gyfarwyddyd. Mae'r IMHA yn gallu cynrychioli hawliau a dymuniadau blaenorol y claf ond ni fydd yn gwneud argymhellion o ran eu Buddion Pennaf. Ymhlith y sbardunau ar gyfer y math hwn o atgyfeiriad mae:
Gall claf ddweud na i gefnogaeth IMHA ar unrhyw adeg. I gyfeirio, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â'r tîm ar 029 2054 0444.