Ydych chi angen ystafell hyfforddi llachar a glân sydd â digon o fannau parcio am ddim?
Neu fan cyfarfod hyblyg? Efallai bod angen arnoch ystafell neu ddwy i ffwrdd o'ch lleoliad arferol i gynnal cyfweliadau neu sesiwn adeiladu tîm?
Hoffech chi gael mynediad at swyddfa sydd ar gael am ddiwrnod cyfan neu hanner diwrnod?
Os ateboch chi 'ie' i unrhyw un o'r rhain, mae'n bosib bod gan ASC yr ateb i chi.
Mae gan Cefnogaeth Eiriolaeth Cymru tair ystafell hyfforddi neu gyfarfod cost-effeithiol, wedi'u hadnewyddu ar gael i'w llogi. Daw'r mannau hyblyg hyn gyda chyfleusterau cegin, parcio hygyrch am ddim, cyswllt di-wifr ac mae pob un yn leoedd tawel iawn i weithio ynddynt.
Mae ein swyddfeydd wedi'u lleoli yn Llaneirwg, Caerdydd, sydd y tu allan i ganol y ddinas ond sy'n hawdd iawn eu cyrraedd. Fel rheol, nid yw budd a chyfleustra parcio am ddim ar gael mewn lleoliadau yng nghanol y ddinas.
Mae'r ystafelloedd ar gael i'w llogi rhwng 8.30am - 4.30pm dydd Llun i ddydd Gwener. Os hoffech chi weld unrhyw un o'r mannau hyn, cysylltwch â RoomHire@ascymru.org.uk a byddwn yn hapus i drefnu hyn gyda chi.
Cost llogi: £35.00 yr awr / £125.00 diwrnod cyfan
Cost llogi: £20.00 yr awr / £85.00 diwrnod cyfan
Cost llogi: £15.00 yr awr / £65.00 diwrnod cyfan
Gellir gweld mwy o ddelweddau o'r mannau i'w llogi trwy glicio yma
Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau at RoomHire@ascymru.org.uk.
Byddwn yn derbyn ymateb yn nodi'r argaeledd o fewn 3 diwrnod gwaith - fel arfer ar unwaith. Byddwn yn anfon ffurflen fwcio atoch ynghyd â chopi o'r telerau ac amodau. Bydd angen cwblhau'r rhain a chael aelod swyddogol o staff i'w llofnodi cyn y gallwn gadarnhau eich cais i fwcio. Gallwch drefnu ymweld ag ystafell os hoffech weld y mannau sydd ar gael cyn bwcio.
Mae ASC yn cadw'r hawl i ganslo unrhyw drefniant llogi os nad ydym wedi derbyn taliad cyn y dyddiad llogi. Mae ASC hefyd yn cadw'r hawl i godi unrhyw daliadau ychwanegol os byddwch yn defnyddio mwy o gyfleusterau neu'n eu defnyddio am gyfnod hirach na chytunwyd, os nad ydym wedi cytuno i hyn ymlaen llaw.
NODWCH: Rhaid i'r llogwr dderbyn cyfrifoldeb dros yr ystafell a chytuno i ymddwyn mewn modd priodol yn ystod eu cyfnod yn yr ystafell. Mudiad proffesiynol yw ASC ac mae disgwyl i unrhyw un sy'n llogi'r cyfleusterau i ymddwyn mewn modd proffesiynol a chwrtais. Ni fyddwn yn goddef unrhyw sŵn eithafol neu anghyfleustra sy'n effeithio ar waith ASC o ddydd i ddydd ac yn yr achosion hyn byddwn yn gofyn i'r llogwyr adael.