Mae hawl gan bawb i gael eu clywed.
Mae eiriolaeth yn caniatáu i bobl gyfathrebu'u hanghenion a'u dymuniadau i eraill gallai fod â dylanwad neu bŵer dros eu bywydau.
Mae Cefnogaeth Eiriolaeth Cymru (ASC) yn cefnogi ac yn rhoi llais i gleientiaid mewn lleoliadau gofal iechyd meddwl sylfaenol neu eilaidd.
Ar adegau o'r fath mewn bywyd, mae pobl yn agored i niwed a gall weithiau fod yn anodd deall yr holl wybodaeth sydd ar gael i chi a beth yw eich hawliau.
Mae ASC yn annibynnol ac yn cynrychioli dymuniadau a safbwyntiau ein cleientiaid.
Nid ydym yn barnu dymuniadau'r bobl rydym yn eu cefnogi neu'n ceisio perswadio cleient i ddilyn ffordd benodol o weithredu ond yn eu cefnogi i wybod eu hawliau a'u hannog i leisio eu barn a'u dymuniadau.
Mewn achosion ble mae diffyg galluedd, byddwn yn eirioli ar ran y cleient.
Darllenwch ein haddewid i gefnogwyrEr mwyn galluogi cynaladwyedd ein gwasanaeth, gallwch wneud rhodd neu glicio isod i weld yr amrywiaeth o ffyrdd y gallech ein helpu i wneud gwahaniaeth.
Os hoffech gefnogi ein gwaith, byddai ein codwr arian Joanne wrth ei bodd yn clywed gennych.
Cysylltwch â jhill@ascymru.org.uk a bydd hi'n cysylltu â chi.
Rhoddi ar-lein trwy Localgiving Trwy siopa ar-lein Codwch arian i ni Trwy'r post Gadael Etifeddiaeth Anfonwch neges destun yn dweud ASCYMRU £2 i 70085 i roddi i Cefnogaeth Eiriolaeth Cymru er mwyn gwneud gwahaniaeth heddiw. Rydym yn gwerthfawrogi eich rhodd trwy Donr.