Mae pob Bwrdd Iechyd yng Nghymru yn darparu gwasanaeth Eiriolaeth Gymunedol ar gyfer cleifion cymwys yn eu hardal. Ar yr adeg hon, mae ASC yn darparu gwasanaeth Eiriolaeth Gymunedol ar gyfer pobl o unrhyw oedran yn ardaloedd Caerdydd a'r Fro ac Bae Abertawe.
Cleifion mewnol seiciatrig sydd angen eiriolaeth yn ymwneud â thai/ budd-daliadau/ trefniadau domestig cyhyd â bod y gwaith hwn ddim yn gwrthdaro â'r gwasanaeth IMHA statudol sy'n gweithredu yn yr ardal.
Ar gyfer atgyfeiriadau cymunedol (gan gynnwys hunan-atgyfeiriadau) ffoniwch 029 2054 0444. Neu lawrlwythwch y ffurflen isod a'i dychwelyd atom ar beiriant ffacs at 029 2073 5620 neu ar e-bost at info@ascymru.org.uk
Nodwch: Bydd gofyn i bobl sy'n atgyfeirio eu hunain am Eiriolaeth Gymunedol enwebu Gweithiwr Iechyd neu Ofal Cymdeithasol Proffesiynol maen nhw'n hapus i ni gysylltu â hwy fel rhan o'r broses Asesu'r Risg o Weithio ar eich pen eich hun.
Nid yw hyn yn rhagdybio y bydd unigolion yn peri risg i'n heiriolwyr ac nid yw'n effeithio ar gymhwysedd person ar gyfer y gwasanaeth.
Lawrlwythwch ein siart lif am ragor o wybodaeth am hyn.