Mae pob Bwrdd Iechyd yng Nghymru'n darparu gwasanaeth IMHA ar gyfer cleifion cymwys yn eu hardal hwy. Ar yr adeg hon, mae ASC yn darparu'r gwasanaeth hwn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
I ddarganfod pwy sy'n darparu'r gwasanaeth IMHA ym Myrddau Iechyd eraill Cymru, ewch i'n tudalen Cysylltiadau Eraill.
Bydd yr IMHA yn ceisio sicrhau bod llais y claf yn cael ei glywed trwy gefnogi'r claf
Mae IMHA yn cefnogi eu cleientiaid yn unig ac nid ydynt yn gweithredu ar ran unrhyw berson arall, gan gynnwys Staff Iechyd, staff y GIG a gofalwyr. Ni fydd IMHA yn barnu neu'n gwneud penderfyniadau am Fuddion Pennaf eu cleientiaid. Nid yw eiriolwyr yn cadw gwybodaeth bersonol yn ôl o'u cleient nac yn rhannu gwybodaeth gyda gweithwyr proffesiynol heb ganiatâd eu cleient.
Am unrhyw atgyfeiriadau IMHA (gan gynnwys hunan-atgyfeiriadau) o fewn ardaloedd cymhwysol, ffoniwch 029 2054 0444. Neu lawrlwythwch un o'r ffurflenni isod a'i dychwelyd atom ar ffacs neu e-bost.
Ffurflen Atgyfeirio IMHA