Hyfforddiant Sgiliau Ymyriadau Hunanladdiad Cymwysedig (ASIST)
Dysgwch sgiliau i ymyrryd ac achub bywyd rhag hunanladdiad.
Gweithdy deuddydd ar gymorth cyntaf hunanladdiad yw ASIST. ASIST yw'r hyfforddiant sgiliau ymyriadau hunanladdiad a ddefnyddir amlaf, ac sydd a'r swm uchaf o ymchwil, ar draws y byd. Mae'n dysgu cyfranogwyr i adnabod pryd allai fod gan rywun feddyliau o hunanladdiad ac i weithio gyda nhw i greu cynllun a fydd yn cefnogi eu diogelwch ar unwaith.
Er bod darparwyr gofal iechyd yn aml yn defnyddio ASIST, does dim angen unrhyw hyfforddiant ffurfiol ar gyfranogwyr i fynychu'r gweithdy - gall unrhyw un ddysgu sut i ddefnyddio model ASIST.

Beth yw ASIST?
Gweithdy hyfforddiant rhyngweithiol, deuddydd o hyd yw ASIST sy'n paratoi cyfranogwyr i ddarparu ymyriadau cymorth cyntaf hunanladdiad.
Mae nifer o bobl sy'n ystyried hunanladdiad yn nodi eu gofid a'u bwriad, weithiau mewn modd cynnil iawn. Bydd hyfforddiant ASIST yn eich helpu i adnabod ac ymateb i'r gwahoddiadau hyn am gymorth, yn rhoi'r hyder i chi siarad am hunanladdiad os ydych yn poeni am ddiogelwch unigolyn ac yn eich darparu â'r sgiliau i helpu atal y risg ddybryd.
"Dau ddiwrnod pleserus iawn. Roedd hyfforddwyr yn wybodus iawn am y pwnc ac yn hawdd mynd atynt. 10/10."
Pwy all fynychu ASIST?
Mae nifer o weithwyr proffesiynol yn mynychu ASIST oherwydd bod meddu ar sgiliau i ymyrryd mewn hunanladdiad yn hanfodol ar gyfer eu gwaith. Nyrsys, athrawon, cynghorwyr, yr heddlu, ymatebwyr cyntaf - mae pawb 16 oed neu'n hŷn yn gallu dysgu sut i ddefnyddio model ASIST. Nid oes angen profiad blaenorol o iechyd meddwl neu atal hunanladdiad. Daw ein hyfforddwyr profiadol o amrywiaeth o wahanol gefndiroedd.
Ar ôl mynychu cwrs llawn ASIST, byddwch yn meddu ar y sgiliau i allu gwneud y canlynol:
- Bod yn wyliadwrus i hunanladdiad a gallu adnabod pobl sy'n meddwl am hunanladdiad
- Deall y rhesymau y tu ôl i feddyliau am hunanladdiad a'r rhesymau dros fyw
- Asesu risg a diogelwch - datblygu cynllun i gynyddu diogelwch y person mewn perygl o hunanladdiad
- Adnabod gwahoddiadau am gymorth a gallu gweithredu arnynt
- Adnabod rhwystrau posib at gael cymorth
- Cynnig cefnogaeth - adnabod agweddau pwysig eraill o atal hunanladdiad gan gynnwys hyrwyddo bywyd a hunanofal
- Rhoi model ymyriadau hunanladdiad a ddysgir trwy ASIST ar waith yn effeithiol
- Cysylltu pobl ag adnoddau cymunedol a fydd yn gallu darparu cymorth pellach
"Hyfforddiant llawn gwybodaeth ddefnyddiol. Wedi'i gyflwyno'n dda mewn modd proffesiynol. Yn bendant yn rhywbeth a fydd yn ddefnyddiol yn fy ngwaith ac yn fy mywyd o ddydd i ddydd."
Beth yw nodweddion y gweithdy?
- Cyflwyniadau a chyfarwyddyd gan ddau o hyfforddwyr cofrestredig LivingWorks
- Cynhelir ASIST dros ddau ddiwrnod yn olynol am gyfnod o 15 awr gan greu profiad dysgu pwerus gyda ffocws ar y nodweddion pwysicaf
- Model ymyriadau sydd wedi'i brofi'n wyddonol
- Cymhorthion dysgu clyweledol pwerus
- Trafodaethau grŵp i gefnogi ac atgyfnerthu'r dysgu. Penderfyniad y cyfranogwyr yw beth maen nhw eisiau ei rannu gyda'r cyfranogwyr eraill yn y sesiynau grŵp
- Ymarfer a datblygu sgiliau
- Cydbwysedd o heriau a diogelwch
- Deunyddiau cyfranogwyr gan gynnwys cwrs-lyfr 20 tudalen, cerdyn ar gyfer y waled a sticeri. Bydd y cyfranogwyr hefyd yn derbyn tystysgrif ar ôl cwblhau'r cwrs.
I ddarllen mwy am gwrs ASIST >> cliciwch yma
Mae'r hyfforddiant hwn yn newid ac yn achub bywydau. Mae'r gweithdy wedi achosi i mi adlewyrchu ar fy ymagwedd yn fy mywyd proffesiynol a phersonol. Diolch."
Lleoliad a Dyddiadau
Mae cyrsiau agored yn cael eu cynnal yn ein hystafell hyfforddi yn St Mellons, Caerdydd. Wedi'i wasanaethu'n llawn a gyda chyfleusterau modern, mae'n lleoliad gwych ac mae'n cynnwys digon o le parcio am ddim.
Dyddiadau nesaf y cwrs agored:
19 - 20 Gorffennaf 2022 - Caerdydd
25 - 20 Hydref 2022 - Caerdydd
**E-bostiwch training@ascymru.org.uk i ofyn am ffurflen archebu. Bydd angen dychwelyd hwn cyn gynted â phosibl i sicrhau eich lle (oedd). Sylwch ein bod ar hyn o bryd yn gweithredu cyrsiau ar niferoedd is oherwydd gofynion COVID, ond rydym yn defnyddio rhestrau aros a ddefnyddiwyd ar gyrsiau diweddar.
Lleoliad: Swyddfeydd ASC yng Nghaerdydd, CF3 0LT
Cost: £165 y person (yn cynnwys cinio, lluniaeth a holl ddeunyddiau cwrs). Gostyngiad ar gael i elusennau.
Gallwn gyflwyno'r cwrs i gwmnïau unigol ar gais (mae angen o leiaf 10 cyfranogwr pendant ond gellir cadarnhau enwau'r cyfranogwyr hyn 48 awr cyn dechrau'r cwrs).
Am ragor o fanylion ar sut i fwcio lle neu am ragor o wybodaeth, e-bostiwch training@ascymru.org.uk neu ffoniwch ni ar 029 2054 0444.
SYLWCH: Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg
