Gweithdy hanner diwrnod yw safeTALK sy'n ategu'r cwrs deuddydd Hyfforddiant Sgiliau Ymyriadau Hunanladdiad Cymwysedig (ASIST) mwy cynhwysfawr a rhaglenni hyfforddiant ymyriadau hunanladdiad eraill. Nod safeTALK yw ymestyn estyniad cynorthwywyr ymwybyddiaeth hunanladdiad trwy sicrhau na fod meddyliau o hunanladdiad yn cael eu colli, eu hanwybyddu neu eu hosgoi.
Mae safeTALK wedi'i dylunio ar gyfer y sawl yn y gymuned sydd angen bod yn ymwybodol o hunanladdiad fel rhan o'u swyddi. Gall hefyd weithio ar gyfer sefydliadau sydd â hyfforddwyr cymwys ASIST eisoes. Mae'n canolbwyntio ar gysylltu person â meddyliau hunanladdol â'r sawl sydd wedi cwblhau ASIST ac sydd felly wedi datblygu'r sgiliau i wneud ymyriad hunanladdiad.
Cwrs byr hanner diwrnod (3.5 awr) ar ymwybyddiaeth hunanladdiad yw safeTALK sydd â'r nod o fod y cam cyntaf allweddol o adnabod bod rhywun yn ystyried lladd ei hun. Gallwch roi rhybudd hunanladdiad ar waith trwy ddilyn y camau syml hyn - Dweud, Gofyn, Gwrando a Chadw'n Ddiogel.
Mae safeTALK yn hyfforddi cynorthwywyr ymwybyddiaeth hunanladdiad i wneud y canlynol:
Gall unrhyw un fynychu cwrs safeTALK. Mae'n addas ar gyfer pobl oed 16+ o unrhyw gefndir sydd angen bod yn ymwybodol o hunanladdiad yn eu gwaith neu fywyd personol. Fel arfer, caiff ei dysgu gan un hyfforddwr i grwpiau o hyd at 30 cyfranogwr.
Awgrymir yn gryf bod sefydliad sy'n ystyried ymagwedd at atal hunanladdiad yn ystyried mabwysiadu ASIST a safeTALK gyda'i gilydd. Cwrs deuddydd cynhwysfawr yw ASIST lle mae cyfranogwyr yn dysgu'r sgiliau i ymgymryd ag ymyriad hunanladdiad. Nod safeTALK yw gweithredu fel rhwydwaith cefnogaeth ehangach i bobl fod yn ymwybodol o ymyriadau hunanladdiad ac i'r cynorthwywyr hynny gysylltu pobl â meddyliau hunanladdol â chefnogaeth pobl sydd wedi derbyn hyfforddiant ASIST.
Bydd angen i sefydliadau sydd â diddordeb mewn cwblhau cwrs safeTALK yn fewnol neu sy'n ystyried anfon staff ar gwrs agored gael digon o staff sydd wedi derbyn hyfforddiant ASIST.
Cynhelir y cyrsiau agored yn ein canolfan hyfforddiant, llawr cyntaf yn Llaneirwg, Caerdydd. Gyda'r holl gyfleusterau modern disgwyliedig ynghyd â digon o fannau parcio am ddim.
Mae safeTALK yn arbennig o addas ar gyfer hyfforddiant mewnol mewn sefydliadau i grwpiau o hyd at 30 cyfranogwr. Cysylltwch â training@ascymru.org.uk gydag unrhyw ymholiadau ac i drafod y cwrs mewn mwy o fanylder.
Am ragor o fanylion ar sut i fwcio lle neu am ragor o wybodaeth, e-bostiwch training@ascymru.org.uk neu ffoniwch ni ar 029 2054 0444.