Cynyddu'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol am y pethau pwysig.
Dull cyfathrebu arloesol, arobryn yw Talking Mats sy'n seiliedig ar ymchwil helaeth gan Therapyddion Iaith a Lleferydd a nhw hefyd oedd yn gyfrifol am ddylunio'r dull hwn. Mae'n fodel sy'n defnyddio symbolau lluniau unigryw a ddyluniwyd yn arbennig sy'n ddeniadol i bobl o bob oedran a phob gallu cyfathrebu. Caiff ei defnyddio gan ymarferwyr clinigol, gofalwyr a gweithwyr cefnogaeth mewn amrediad eang o leoliadau iechyd, gwaith cymdeithasol, preswyl ac addysg.
Adnodd rhyngweithiol, nad sy'n dechnegol, yw Talking Mats sy'n defnyddio tair set o symbolau i gyfathrebu ar ffurf lluniau - pynciau, opsiynau a graddfa weledol - a man lle gellir eu harddangos. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar sut mae Talking Mats yn gweithio trwy glicio yma.
Fel rheol, ymarferwyr clinigol, gofalwyr a gweithwyr cefnogaeth sy'n mynychu cwrs Talking Mats. Os yw'n cael ei defnyddio i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc, yn cael ei defnyddio fel adnodd i gyfathrebu ar ôl strôc, neu i oresgyn anawsterau cyfathrebu gyda phobl ag anabledd dysgu neu ddementia, mae symbolau cyfathrebu Talking Mats yn gallu bod yn hynod effeithiol.
Gan ddibynnu ar eich swydd, ar ôl mynychu cwrs Talking Mats, bydd gennych y sgiliau i wneud y canlynol:
I ddarllen mwy am gwrs Talking Mats >>cliciwch yma
Lleoliad a Dyddiadau Cynhelir y cyrsiau yn ein canolfan hyfforddiant yn Llaneirwg, Caerdydd. Mae ein canolfan hyfforddiant yn cynnwys yr holl gyfleusterau disgwyliedig gan gynnwys cegin i baratoi lluniaeth, ystafell ymlacio a nifer o fannau parcio.
Am ragor o fanylion ar sut i fwcio lle neu am ragor o wybodaeth, e-bostiwch training@ascymru.org.uk neu ffoniwch ni ar 029 2054 0444.
Gallwn gyflwyno'r cwrs i gwmnïau unigol ar gais (mae angen o leiaf 8 cyfranogwr pendant ond gellir cadarnhau enwau'r cyfranogwyr hyn 24 awr cyn dechrau'r cwrs). Os ydych eisiau bwcio mwy na dau le, anfonwch e-bost atom neu ffoniwch ni ar 029 2054 0444 i drafod pa opsiynau sydd ar gael.
SYLWCH: Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno yn Saesneg