Rhwystrau a wynebwyd:
Roedd C yn methu cyfathrebu ar lafar. Roedd C wedi colli'r defnydd o'i braich dde (roedd C yn llawdde). Roedd C yn defnyddio taflen o bapur wedi'i lamineiddio gyda'r wyddor wedi'i argraffu arni. Byddai C yn sillafu geiriau trwy bwyntio at un llythyren ar y tro. Roedd hyn yn llafurus ac yn cymryd amser, ac yn flinderus i C. Roedd yn aml yn anodd i eraill ddilyn a deall yn llawn beth roedd C yn ceisio ei gyfleu.
Eiriolaeth a wnaethpwyd:
- Ymwelodd yr IMHA â C a phennu mai diffyg cyfathrebu oedd y broblem, nid diffyg galluedd.
- Ymwelodd yr IMHA â C ar sawl achlysur gyda chymorth IMHA arall sy'n ddarllenwr gwefusau (roedd C yn gallu gwefuso geiriau ond yn methu eu hynganu). Bu'r ddau IMHA ddefnyddio dyfais llechen hefyd ac roedd C yn gallu defnyddio'r ddyfais i sillafu brawddegau cyfan, gan ddefnyddio ei law dde.
- Defnyddiodd y ddau IMHA eu hamser gan gydweithio gyda sgiliau arbenigol er mwyn ennill barn C ar eu gofal a thriniaeth.
- Roedd C yn teilo bod y staff ar y ward yn brysur iawn a ddim bob tro â'r amser gofynnol i gyfathrebu'n llawn. Roedd y ddau IMHA yn gallu hwyluso hyn.
Canlyniadau:
Roedd C yn gallu cael mwy o ddweud mewn penderfyniadau yn ymwneud â thriniaeth yn yr ysbyty a'r opsiynau 'symud ymlaen' o'r ysbyty. Roedd C yn teimlo'n well o ran cyfathrebu barn a dymuniadau i staff y ward a oedd yn gofalu amdano.