Rhwystrau a wynebwyd:
Roedd D yn teimlo bod yna broblemau cyfathrebu rhyngo fe a'r tîm gofal. Nododd D ei fod yn dioddef o gof cyfnod byr oherwydd difrod i'r ymennydd yn sgil cam-drin alcohol. Nododd D y byddai'n anghofio pethau roedd pobl yn dweud wrtho o fewn munudau o glywed yr wybodaeth a'i bod yn dibynnu'n fawr ar wybodaeth ysgrifenedig yr oedd yn gallu cyfeirio yn ôl at yn ôl yr angen. Nododd D bod staff ar y ward wedi esgeuluso ei gof cyfnod byr a bod yn well ganddynt drafod materion gan gynnwys materion at y dyfodol ar lafar, gyda D yn anghofio'r hyn a drafodwyd wedyn.
Eiriolaeth a wnaethpwyd:
Helpodd yr IMHA drefnu cyfarfod gyda D a'i dîm gofal i drafod cynlluniau at y dyfodol.
Cefnogodd yr IMHA y cleient yn ystod y cyfarfod ble drafododd y tîm gofal gynlluniau i symud D i gartref cymunedol.
Cymerodd yr IMHA gofnodion y cyfarfod i'r cleient eu cadw a chyfeirio atynt pan roedd eisiau trafod y cynlluniau at y dyfodol eto.
Canlyniadau:
Roedd gan D gofnod dogfennol annibynnol o'r cyfarfod gofal i gyfeirio yn ôl at unrhyw bryd roedd eisiau gwneud.