Aeth yr IMCA i'r ward i siarad â staff a J. Cafodd yr IMCA hefyd fynediad at ffeil ysbyty J a nododd bod dim sôn am nam ar y cof neu'r ymennydd yn yr asesiad galluedd a gwblhawyd am J. Cododd yr IMCA hyn yn y cyfarfod budd pennaf gan nodi bod dim modd ystyried hwn fel Asesiad Galluedd dilys gan fod y 'prawf dau gam' heb gael ei dilyn yn gywir.
Roedd J yn colli ei rhyddid ar y ward ac yn mynegi dymuniad i ddychwelyd adref. Pan aeth yr IMCA i'r ward y tro cyntaf, doedd dim cais am awdurdodaeth DOLs wedi cael ei wneud. Atgoffodd yr IMCA y ward am y 'Prawf Asid' a amlinellwyd yn Nyfarniad Gorllewin Swydd Gaer a gwnaethpwyd cais gan staff y ward.
Wedi pennu bod gan J ddiffyg galluedd i wneud penderfyniad am fynd adref, yn dilyn sgan CT a diagnosis ffurfiol o ddementia fasgwlaidd, mynychodd yr IMCA gyfarfod budd pennaf arall i gynrychioli dymuniadau J i ddychwelid adref. Roedd J yn gadarn iawn ac yn gyson yn ei ddymuniadau ac nid oedd eisiau ystyried byw mewn lleoliad arall. Mynegodd yr ysbyty bryderon am hyn oherwydd nid oeddent yn teimlo y byddai'n ddiogel i J gael ei ryddhau adref.
Wrth gwrdd â J ar y ward, roedd yn ymddangos bod llawer o'r dillad roedd ganddo yn frwnt a bod angen dillad newydd arno. Cododd yr IMCA hyn gyda'r Gweithiwr Cymdeithasol a benodwyd iddo, a oedd yn gallu gwneud ymweliad cartref i gael dillad glân iddo. Yn anffodus, nid oedd gan J llawer o ddillad adref, felly penderfynodd y gweithiwr cymdeithasol fynd allan i brynu dillad newydd iddo. Roedd J yn ddiolchgar iawn am hyn ac roedd yn gallu cadw ei urddas.
Gofynnodd yr IMCA i'r gweithiwr cymdeithasol a oedd gan J y galluedd y reoli ei gyllid, ac os na, pa fframwaith cyfreithiol byddai yn ei le i'w diogelu. Cwblhaodd y gweithiwr cymdeithasol asesiad galluedd mewn perthynas â rheoli cyllid ac fe bennwyd bod gan J ddiffyg galluedd yn y maes hwn. Bellach mae cais yn cael ei wneud i'r Llys Gwarchod am orchymyn dirprwyaeth er mwyn sicrhau bod cyllid J yn cael ei diogelu.
Rhyddhawyd J yn ôl i'w gartref gyda phecyn gofal a mynediad at ganolfan ddydd leol. Mynychodd yr IMCA gyfarfod adolygu i J yn dilyn gwneud y penderfyniad budd pennaf a wnaed i ryddhau J i'w gartref ei hun.
Dywedwyd wrth yr IMCA bod J yn ffynnu adref gyda phecyn gofal a mynediad at ganolfan ddydd.